Welcome to Ffynon Tractors
Croeso i Ffynon Tractors, sy'n agos at dref farchnad Llanfair-ym-muallt, Powys yng Nghalon Cymru. Mae Ffynon Tractors yn cyflenwi peiriannau amaethyddol newydd ac ail-law i'r gymuned leol a ledled y sir, a hefyd yn allforio i Iwerddon ac i wledydd Ewropeaidd eraill.
Ein nod yn Ffynon Tractors yw cynnig y tractorau a'r peiriannau ail-law gorau oll, gyda chyfleusterau gweithdy sy'n gallu cynnig pibellau hydrolig, diagnosteg a gwasanaeth atgyweirio systemau tymheru i alluogi ein cwsmeriaid i gadw eu hoffer mewn cyflwr penigamp.
Ym mis Ebrill 2010, daeth Ffynon Tractors yn ddelwyr ar gyfer offer amrywiol Case IH, sy'n cynnwys tractorau a pheiriannau cynaeafu. Gallwn ni hefyd gyflenwi amrywiaeth eang o beiriannau, boed yn newydd neu'n ail-law, gan gynnwys peiriannau lladd gwair, byrnwyr, beiciau cwad ac ati.