Equipment Sales

Case IH Agriculture
Mae brand Case IH yn cynrychioli traddodiad o arweinyddiaeth. Cyfuniad ydyw o gwmnïau a brandiau offer amaethyddol gwych, gan gynnwys Case, International Harvester a David Brown, ymhlith llawer o rai eraill.
McHale
Mae McHale yn ymchwilio i'w byrnwyr arbenigol a'u peiriannau lapio bêls, yn eu dylunio ac yn eu rhoi ar brawf, yn unol â gofynion y rhai a fydd yn eu defnyddio yn y pen draw. Yn ystod y cyfnod dylunio a datblygu, mae pob peiriant yn destun profion trylwyr gyda defnyddwyr ym mhen ucha'r farchnad o blith ffermwyr a chontractwyr yng Nghymru, Iwerddon, Lloegr, yr Alban, Llychlyn a Seland Newydd.
NC Engineering
Cwmni gweithgynhyrchu arallgyfeiriedig yw NC Engineering, yn cynhyrchu amrywiaeth eang o beiriannau ar gyfer y diwydiant amaethyddol a'r diwydiant adeiladu. Ers 1975, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnyrch o ansawdd am brisiau fforddiadwy, gan ennill nifer o wobrau am ddylunio ac arloesi trwy ein polisi o ymchwil a datblygu parhaus.
Hi-Spec
Mae peiriannau Hi-Spec yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a chydrannau o ansawdd uchel sy'n golygu eu bod nhw'n ddibynadwy ac yn hawdd i'w cynnal a'u cadw, gan roi blynyddoedd lawer o wasanaeth. Ond maen nhw hefyd wedi'u dylunio i helpu i wneud ffermydd yn fwy effeithlon a chynhyrchiol. Oherwydd eu bod nhw'n cyflawni porthiant cyson, wedi'i gymysgu'n dda mewn cyn lleied o amser â phosibl, mae ein peiriannau bwydo'n helpu i gwtogi ar yr amser bwydo, ond yn galluogi cyflawni cyfraddau tyfu neu gynhyrchu llaeth uwch.
Manitou
Fel partneriaid â'r diwydiant ffermio am fwy na 25 mlynedd, rydyn ni'n gwybod bod eich busnes yn gyffrous ac yn ddyrys, a bod pob cymhwysiad yn unigryw. Mae MANITOU wedi ymrwymo i ddarparu'r triniwr deunyddiau sydd ei angen arnoch chi i wneud i'ch busnes redeg yn fwy effeithlon.
Quicke
Mae Alo UK Ltd yn is-gwmni Alo AB, sef cwmni o Sweden sy'n gweithgynhyrchu Llwythwyr Blaen ac Offer o'r radd flaenaf. Sefydlwyd Alo UK Ltd ym 1999, ar ôl prynu busnes Lawrence Edwards Ltd a oedd wedi bod yn mewnforio gwahanol lwythwyr blaen Quicke ers 1967.
Lynx Engineering
Mae'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd ar gael oddi wrth Lynx wedi tyfu a datblygu dros nifer o flynyddoedd i ddiwallu amrywiaeth eang o anghenion trin tir, drilio a thrin deunyddiau ac mewn ymateb i'r galw mwy am economi gweithredu a chynhyrchu gynyddol.
MX Loaders
Fel yn achos amaethyddiaeth, mae MX wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd. Pan gymerodd Louis Mailleux yr awenau yn efail y teulu ym 1951, ni allai fod wedi dychmygu y byddai'r busnes yn datblygu i ddod yn ddiwydiant mawr sy'n un o'r prif chwaraewyr yn y farchnad ac sy'n gallu ffitio mwy na 5000 o fodelau tractorau.